Côr Meibion Maelgwn Members

Croeso i wefan Côr Meibion Maelgwn...

Hanes

Mae’r côr wedi’i enwi ar ôl Brenin Maelgwn Gwynedd a oedd yn byw yng Nghastell Deganwy, rhwng Llandudno a Chonwy. Dywedir bod yr eisteddfod gyntaf wedi’i chynnal yn Neganwy o dan nawdd Maelgwn Gwynedd. Y traddodiad ydi ei bod hi’n well gan Maelgwn y beirdd na’r cerddorion. Roedd y cystadleuwyr yn gorfod nofio yn ôl ac ymlaen ar draws afon Conwy a’r beirdd a oedd yn fuddugol oherwydd i’r dŵr ddifetha offerynnau’r cerddorion!

Mae’r côr yn tarddu o Barti Cerdd Dant Maelgwn a ffurfiwyd gan William Lloyd i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudno, 1963. Ar ôl iddo farw, ail-ffurfiodd R. Davy Jones, un o’r tenoriaid uchaf, y parti fel côr meibion. Bu’n arweinydd llwyddiannus ar y côr o 1970 tan 2000.

Historical Photo of the ChoirY côr gwreiddiol yn y Four Oaks Restaurant ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, 1971.

Cyngerdd Blynyddol cyntafCyngerdd Blynyddol cyntaf y côr yn Neuadd Ddinesig Conwy, Mai 6ed, 1973.
Arweinydd - Davy Jones
Mezzo-Soprano - Ann Hood
Sadlers Wells Opera Co.
Bariton - Robert Bickerstaff
Sadlers-Wells Opera Co.

Pan aeth Davy yn sâl, daeth Ifor Clwyd Jones, ein Dirprwy Arweinydd presennol, yn arweinydd am 12 mis nes i’r côr benodi Trystan Lewis yn Gyfarwyddwr Cerdd yn 2001. Roedd hyn yn cwblhau triawd o arweinwyr o blith y côr ei hun.

Amcanion y côr ydi meithrin ac addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a hyrwyddo pob agwedd ar gerddoriaeth. Yn ogystal, cydweithio ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg a chymdeithasau diwylliannol sy’n ymwneud ag ymarfer, cyflwyno ac astudio cerddoriaeth, er mwyn hyrwyddo perfformiadau gwell ac ehangach o weithiau corawl i gorau meibion.

Ers cychwyn y côr, mae canu mewn tua 1500 o gyngherddau ac mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill, fel priodasau, angladdau a seremonïau ffurfiol. Mae hefyd wedi teithio’n fyd-eang i wledydd gan gynnwys Canada, UDA, Iwerddon, Israel, Ffrainc, Slofenia a’r Iseldiroedd.

Hanes Y Côr
Hanes Y Côr yn 1981
Hanes Y Côr yn 1982
Hanes Y Côr yn 1984
Côr Maelgwn 2015Côr Maelgwn 2015
Trystan Lewis, Cyfarwyddwr Cerdd y Côr 2001 - 2016Trystan Lewis, Cyfarwyddwr Cerdd y Côr 2001 - 2016
Mererid Mair, Cyfeilydd y Côr 2001 – 2016Mererid Mair, Cyfeilydd y Côr 2001 – 2016
Ifor Clwyd Jones, Dirprwy Arweinydd 1993 – 2017Ifor Clwyd Jones, Dirprwy Arweinydd 1993 – 2017
J. Norton EvansJ. Norton Evans, Llywydd 2012 - 2018