Côr Meibion Maelgwn Members

Croeso i wefan Côr Meibion Maelgwn...

Ymuno A Ni

Côr Meibion Maelgwn oflaen Castell ConwyDyna fo, wedi pori drwy ein gwefan a gweld drostach eich hun, profiad mor foddhaol a bythgofiadwy yw canu gyda Chôr Maelgwn, beth am ymuno a ni?

Mae yn broses ddigon syml a di-boen! Fel y cam cyntaf, dewch i un on hymarferion i wrando ond yn well fyth eistedd gyda’r côr. Os yw yn apelio, gallwch ymuno ar sail reoliadd ac yn dilyn prawf llais (preifat) gyda’r Cyfarwyddwr Cerdd, dod yn aelod llawn o’r côr.

Yn ogystal a’r canu, mae y côr yn mwynhau ochor gymdeithasol, sydd yn cynnwys gwragedd a phartneriaid.

Does dim ffi ymuno ond ffi blynyddol o £100.

Cysylltu â ni:

Cyfeiriad: Geoff Templeton
Secretary – Maelgwn Male Voice Choir
Tyddyn-yr-Awel,
Bryn Prenol,
Tal-y-Cafn,
CONWY LL28 5SH

Ffôn: 01492 580272
Ffôn Symudol: 07769262687
Ebost: secretary.cormeibionmaelgwn@btinternet.com

Does dim angen o gwbl trefnu i fod gyda ni; yn symyl iawn jest trowch i fyny a derbyn croeso cynnes iawn.